YR ENETH DDALL.
Reading edition
Alaw, Toriad y Dydd.
Mae llawer un yn cofio Yr eneth fechan ddall; Ni welodd neb un fach mor fwyn, Mor brydferth, ac mor gall; Fe gerddodd am flynyddau I ysgol Dewi Sant, Ar hyd y ffordd o gam i gam, Yn nwylaw rhai o’r plant. ’R oedd gofal pawb am dani, A phawb yn hoffi ’r gwaith O helpu ’r eneth fach ymlaen, Trwy holl drofeydd y daith; Siaradai ’r plant am gaeau, A llwybrau ger y lli, Ac am y blodau tan eu traed, Ond plentyn dall oedd hi.
Fe glywai felus fiwsig Yr adar yn y dail; Fe deimlai ar ei gwyneb bach Belydrau serch yr haul; Aroglai flodau ’r ddaear; Ond nis adwaenai ’r fûn Mo wên yr haul, a mwy na ’r oll Mo wên ei mam ei hun. Mae ’r plentyn wedi marw,— Ar wely angau prudd Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd, “Mi welaf doriad dydd!” Ehedodd mewn goleuni Oddiwrth ei phoen a’i phall, A gweled golygfeydd y nef Y mae yr Eneth Ddall.