← Table of contents
Ceiriog

TRWY WLEDYDD DWYREINIOL.

Reading edition

[O “Owain Wyn.”]

Gadewais fy mhraidd ar y mynydd, A chefnais ar drumiau fy ngwlad, Breuddwydiais am fyd o lawenydd Tu allan i furiau fy nhad; Yn ol i’r mynyddoedd dychwelais, Ond dysgais, a’m dagrau yn lli, Os bywyd y milwr arweiniais, Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais Ond cofio gwyllt Walia oedd loes; O wagedd ieuenctyd yr yfais Nes chwerwais felusder fy oes; Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,— Chwi wledydd goruchel eich bri, Yn mhell byddoch byth o fy llygad,— Mynyddau ’r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angau Ailddringo llechweddau fy mro, I gasglu y praidd i’w corlannau Hyd lwybrau cynefin i’m co; Uwch bedd anrhydeddus y milwr Mae enfys arddunol o fri; Ond rhowch i mi farw ’n fynyddwr, A beddrod y bugail i mi.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings