PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY.
Reading edition
[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a’u canodd yn Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.]
I.
D’wedwch fod fy ffroen yn uchel, Fod fy malchder yn drahaus, Fod gwamalrwydd ar fy wyneb A mursendod yn fy llais. Ond mae terfyn i anwiredd, I greulondeb a sarhad. Peidiwch byth a dwedyd hynny, Imi golli ’m serch at Gymru, Imi golli iaith fy ngwlad.
II.
O mor barod ydyw dynion I drywanu at y byw; O mor gyndyn ydynt wedyn I roi eli ar y briw. Dodwch garreg ar fy meddrod, Fel y mynnoch bo ’r coffâd; Dyna ’r pryd i dd’wedyd hynny, Imi golli ’m serch at Gymru, Imi golli iaith fy ngwlad.