Y FYNWENT YN Y COED.
Reading edition
Yn araf y cerddasom, I’r fynwent yn y coed; Ac yno y claddasom Chwaer fechan bedair oed; Gan bedair o’i chyfeillion iach, Mewn dillad gwynion claer, Yng ngwŷdd ei thad a’i brodyr bach, I huno rhoed ein chwaer.
Ar waelod bedd y fechan, Cyn gollwng corff ein chwaer; Canfyddem arch wen newydd Fel daeth o ddwylaw ’r saer. Ein hanwyl fam oedd yno ’n fud, Heb fawr o feddwl am I’r plentyn olaf yn y cryd Ddod gyntaf at ei fam.
Pan gaffom ninnau ’n gollwng, Mae gennym weddi daer,— O boed ein llwch yn deilwng O lwch ein mam a’n chwaer. Fe awn yn fynych dros y cae I’r fynwent yn y coed; Y fan mae mam, a’r fan y mae Chwaer fechan bedair oed.