← Table of contents
Ceiriog

CEISIAIS DRYSOR.

Reading edition

Ceisiais drysor yn y byd Mi geisiais ac mi gefais un, Oedd fwy o werth na’r byd ei hun, Fy anwyl Ann, fy nhrysor drud

Yn yr arch mae ’r oll yn awr, Oddigerth y blodeuyn llon Adawodd angau ar ei bron I wenu ar y storom fawr.

Pan suddai ’m llong, tan rym y lli, O’i hystlys daeth rhyw nerth i’m dwyn Yn ol i’r lan. Fy mhlentyn mwyn Bywydfâd bychan oeddyt ti.

Mi hoffwn innau fynd i lawr. Ond er dy fwyn fy mhlentyn llon, Mi geisiaf fyw o don i don Ar wyneb môr fy ngofid mawr

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings