← Table of contents
Ceiriog

AR DDOL PENDEFIG.

Reading edition

Alaw,—Y Gwenith Gwyn.

Ar ddol pendefig, heidden wen Ymgrymai’ phen yn hawddgar; ’R oedd cnwd o honynt ar y cae, Fel tonnau hyd y ddaear; A cher y fan, ar fin rhyw lyn, ’R oedd gwenith gwyn yn gwenu; Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau, Y cnydau prydferth hynny.

Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith, Ei fendith ar y maesydd; A dyn a godai gyda ’r wawr I dorri lawr y cynnydd. Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth, A rhuo wnaeth i’r nefoedd,— “Fod un yn mynd er bendith dyn, A’r llall i ddamnio miloedd.”

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings