← Table of contents
Ceiriog

I GADW ’R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD.

Reading edition

I gadw ’r hen wlad mewn anrhydedd, A’r cenin yn fyw a difêth; Mae rhai yn prydyddu ’n ddiddiwedd, Ond dyma fy marn am y peth,— Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion, Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed, Yw tafod y bachgen bach gwirion, Na ddwedodd anwiredd erioed.

Cydgan: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol, Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd, I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol, Sy’n cadw’r geninen yn werdd.

Mi adwaen gribddeiliwr ariannog, Sy’n deall bob tric i wneud pres; Ond anhawdd anichon cael ceiniog O’i boced at ddim a fo lês. Pan allan, os a yn ei gerbyd, Pan gartref os tyn yn ei gloch; Mae ’n well i ni’r gonest a’r diwyd Pe na bai yn werth dimeu goch.

Ym mhell y bo ’r bobol sy’n grwgnach, Yn erbyn caledrwydd y byd, Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach, Tra plethant eu dwylaw ynghyd. Nid felly y byddai ’r hen Gymry, Ac os yw dy waed ti yn bur, ’R wyt yn edrych yn wrol i fyny Ac yn fachgen sy’n gweithio fel dur.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings