← Table of contents
Ceiriog

Y GARREG WEN.

Reading edition

Os pell yw telyn aur fy ngwlad O’m dwylaw musgrell i; Os unig wyf o dŷ fy nhad, Lle gynt chwareuid hi: Mae ’r iaith er hynny gyda swyn, Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn, I ganu cerdd, os nad yn fwyn I’r byd—mae’n fwyn i mi.

Mae nant yn rhedeg ar ei hynt I ardd fy nghartref i, Lle cododd un o’m teidiau gynt Ddisgynfa iddi hi. Mae helyg melyn uwch y fan, Lle syrthia tros y dibyn ban, A choed afalau ar y lan, Yn edrych ar y lli.

O dan ddisgynfa’r dŵr mae llyn, A throsto bont o bren; A charreg fawr, fel marmor gwyn, Gynhalia’r bont uwch ben. Fy mebyd dreuliais uwch y lli, Yn eistedd yno arni hi; A mwy na brenin oeddwn i, Pan ar fy Ngharreg Wen.

Pan ddeuai ’r Gwanwyn teg ei bryd Ar ol tymhestlog hin, Ac adfywhau ’r llysieuog fyd Yn ei gawodydd gwin; Yn afon fawr ai ’r gornant fach; Pysgotwn ar ei glennydd iach— A phin blygedig oedd fy mach Yn grog wrth edau lîn.

Ni waeth pa ran o’r eang fyd A grwydraf tra b’wyf byw, Wyf wrth y Garreg Wen o hyd, A’r nant sydd yn fy nghlyw; A phan hysbyswyf estron ddyn, Mai ati’ hedaf yn fy hun, Maddeua ’m ffoledd am mai un O gofion mebyd yw.

Ffurfafen bell yw mebyd oes, Serenog fel y nen; Ac ymysg dynion neb nid oes, Na hoffa godi ei ben I edrych draw i’r amser fu— A syllaf finnau gyda’r llu— Ac O! fy seren fore gu Wyt ti, fy Ngharreg Wen.

Os cyraedd ail fabandod wnaf, Cyn gollwng arna’r llen; Os gauaf einioes byth a gaf, A’i eira i wynnu ’m pen— Bydd angau imi ’n “frenin braw,” Nes caffwyf fynd i Walia draw, At dŷ fy nhad, i roi fy llaw Ar ben y Garreg Wen.

Byth, byth ni ddygir o fy ngho’ Gyfeillion mud yr ardd; Nis clywir trystfawr swn y gro Ar gauad arch y bardd; A dagrau pur tros ruddiau ’r nen Fo ’r oll o’r dagrau uwch fy mhen— Os cyfaill fydd, gwnaed garnedd wen O gerrig gwynion hardd.

Colofnau wnaed i feibion bri, Uchelfawr tua’r nen; Ond noder fy ninodedd i Gan garnedd uwch fy mhen; ’Rol gado gwlad y cystudd mawr, Os byw fy enw hanner awr, Na alwed neb fi ar y llawr Ond Bardd y Garreg Wen.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings