CODIAD YR HEDYDD.
Reading edition
Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog, ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y dôn Codiad yr Hedydd.
Alaw,—Codiad yr Hedydd.
Clywch, clywch foreuol glod, O fwyned yw ’r defnynnau ’n dod O wynfa lân i lawr. Ai mân ddefnynnau cân Aneirif lu ryw dyrfa lân Ddiangodd gyda ’r wawr? Mud yw ’r awel ar y waun, Brig y grug yn esmwyth gryn; Gwrando mae yr aber gain, Yn y brwyn ymguddia ’i hun. Mor nefol swynol ydyw ’r sain Sy ’n dod i ddeffro dyn.
Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd, O le i le ar aden lwyd, Yn uwch, yn uwch o hyd; Cân, cân dy ddernyn cu, A dos yn nes at lawen lu Adawodd boen y byd,— Canu mae a’r byd a glyw, Ei alaw lon o uchel le; Cyfyd hiraeth dynol ryw Ar ei ol i froydd ne: Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw, I fyny fel efe.