← Table of contents
Ceiriog

DYDD TRWY ’R FFENESTR.

Reading edition

Alaw,—Dydd Trwy ’r Ffenestr.

Mae rhyddid i wylan y môr gael ymgodi, Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big; Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ’r Eryri Ehedeg i waered i weled y wîg; O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd; Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd, Byddwn yn rhydd!

Yfory pan welir yr haul yn cyfodi, Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed; Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed; Pan welom oleuni yn gwynnu ’r ffenestri, Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd; Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd, Byddwn yn rhydd!

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings