HEN GWRWG FY NGWLAD.
Reading edition
Hen gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn, Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy. Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy. Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig, Neu donnau ’r Caveri, rhoi hynny foddhad; Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig, A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf fi gyda thi ’n nofio Afonydd paradwys fy mebyd yn awr; Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio, A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr. Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn, I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad; Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn, I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith, Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt; Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith, Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt. Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola, Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mâd; Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola, Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.