← Table of contents
Ceiriog

MI WELAF MEWN ADGOF.

Reading edition

Alaw,—Difyrrwch Arglwyddes Owen.

Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan, A’r afon dryloew yn ymyl y fan: O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes, A’r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres. Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt, Yn eilio ’r hen alaw a ganwn i gynt; Rwy ’n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf, A ’nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.

Rwy’n gweled y defaid a’r ŵyn ar y bryn, Rwy ’n gweled gwynebau sy ’ngwaelod y glyn; Rwy’n clywed rhaiadrau yn adsain o draw, Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw. O sued yr awel, a rhued y don, Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon, Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn, Yng Ngwalia mae ’r galon ple bynnag yr awn.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings