’DOES DIM OND EISIEU DECHREU.
Reading edition
Alaw,—Y Gadlys.
’Does dim ond eisieu dechreu, Mae dechreu ’n hanner gwaith, I ddysgu pob gwybodau A deall unrhyw iaith. Nac ofnwch anhawsderau, ’Does un gelfyddyd dan y rhôd Nad all y meddwl diwyd ddod, I’w deall wedi dechreu. “Fe hoffwn innau sengyd Ar ben y Wyddfa draw,” Medd hen foneddwr gwanllyd A phastwn yn ei law. Cychwynnodd yn y boreu, Ac erbyn hanner dydd yr oedd Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd, “’Doedd dim ond eisieu dechreu.”
I fesur y planedau Sy’n hongian er erioed; I ddarllen tudalennau Y ddaear tan dy droed— Y bachgen efo ’i lyfrau Ymlaen yr a, ymlaen yr a I wneuthur drwg neu wneuthur da, ’Does dim ond eisieu dechreu. Wel, deuparth gwaith ei ddechreu, ’Does un ddihareb well; Cychwynnwch yn y boreu, Fe ellwch fynd ymhell. Edrychwch rhwng y bryniau Ffynhonnau bach sy’n llifo ’i lawr, Ond ânt i’r môr yn genllif mawr, ’Does dim ond eisieu dechreu.