← Table of contents
Ceiriog

DYCHWELIAD Y CYMRO I’W WLAD EI HUN.

Reading edition

O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir, O rewdir y Gogledd i Itali dlos: Am danat ti Walia, ar fôr ac ar dir, Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos. Cyfeiriais fy nghamrau i’r ardal hoff hon, Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed; Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron, A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed, A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ôl fy nau droed, Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin; O’r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed, I wledydd y mêl a gwinllanoedd y gwin; Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd, Anwylach a harddach oedd hen Walia wen; Mi groesais y môr i eithafoedd y byd: Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen, Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.

“Nant y Mynydd, groew, loew, Yn ymdroelli tua’r pant.” Tud 9
“Nant y Mynydd, groew, loew, Yn ymdroelli tua’r pant.” Tud 9
Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings