← Table of contents
Ceiriog

TORIAD Y DYDD.

Reading edition

Alaw,—Toriad y Dydd.

Fe welid cant o honom Yng ngoleu ’r lleuad brudd, Yn dringo fyny ’r Wyddfa fawr I weled Toriad Dydd. Edrychem ar y nefoedd, Wrth fynd o fryn i fryn; Edrychem ar y llynoedd dŵr, A phwysem ar ein ffyn. A gwelem y Saith Seren Oedd yn y gogledd draw, Yn gwenu ar Saith Seren wen Oedd yn y llyn gerllaw. Ond nid oedd amser sefyll, Nid oedd ond hanner awr, Na byddai Toriad Dydd yn dod Ar ben y Wyddfa fawr.

O’r diwedd cyrhaeddasom At ffynnon ger ei phen, Gan ddiolch am gael gwin y graig Mor agos at y nen. Dringasom ris i fyny, A threm fawreddus gaed,— Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch, Yn fflamio wrth ein traed; Ataliodd pawb ei anadl, A phlethodd pawb ei law, Wrth weld y goelcerth goch yn dod, A’r nos yn treiglo draw. Galwasom am y delyn, Ac yng ngoleuni ’r wawr, Canasom dôn ar “Doriad Dydd” Ar ben y Wyddfa fawr.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings