← Table of contents
Ceiriog

BEIBL FY MAM.

Reading edition

Y cyfan oll sydd genny ’n awr Yn y cyfanfyd crwn Yw ’r fendigedig gyfrol hon, Yw ’r Beibl anwyl hwn. Mae ’n dechreu gyda dalen deg Ein pren teuluaidd ni: Fy mam wrth farw, megis mam A roddodd hwn i mi.

Rwy’n cofio ’n dda rai enwau hoff, Ar ddechreu ’r gyfrol hon; Fy mrawd, fy chwaer, a’r baban bach Fu farw wrth y fron. Rwy ’n cofio ’r hwyr darllennai ’nhad, Am Grist ac angeu loes; Ac fel y codai ’r Beibl hwn Wrth son am waed y groes.

Mi dreuliais lawer awr erioed, I feddwl am y fan; Rwy ’n gweld y teulu ’n fyw, er fod Eu beddau yn y Llan. Rwy ’n gweld y plant ar derfyn dydd, A’r bychan byr ei gam Yn myned ar ei ddeulin bach, Wrth lin fy anwyl fam.

Mae ’r byd yn wag, cofleidiaf di, Fy Meibl anwyl iawn; Y fynwent a’th ddalennau di Yw ’r unig bethau llawn. Esmwytha di fy ffordd i’r bedd Trwy ddysgu ’r ffordd i fyw: Crynedig dwylaw fo ’n dy ddal Fys anweledig Duw.

“Aros mae’r mynyddoedd mawr, Rhuo trostynt mae y gwynt.”
“Aros mae’r mynyddoedd mawr, Rhuo trostynt mae y gwynt.”
Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings