DAFYDD Y GARREG WEN.
Reading edition
Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd Dafydd, i’r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y dôn sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y dôn yn un o’r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i’w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd â’r geiriau,—“Bedd David Owen, neu Dafydd y Garreg Wen.”
’R oedd Dyfydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; “Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” ebai ef, “Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.”
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth I chwyddo ’r tro olaf trwy ’i fynwes oer, gaeth; “Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moes Im’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.”
Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed Ollyngodd alawon na chlywsid erioed; ’R oedd pob tant yn canu ’i ffarweliad ei hun, A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.
“O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn, Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ’r dôn, Y dydd y’m gosodir fi ’n isel fy mhen,”— A’i fysedd chwareuant yr “Hen Garreg Wen.”
#R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd; Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben, Ac angau rodd fywyd i’r “Hen Garreg Wen.”