← Table of contents
Ceiriog

CADLEF MORGANNWG.

Reading edition

O “Syr Rhys ap Tomos.”

Clywch, clywch, hen gadlef Morgannwg, Wele Rys a’i feirch yn y golwg, I’w atal ymlaen ’Dyw mynydd ond maen Adewir mewn llwch ar ei ol. Corn y gâd ydyw miwsig yr awel, Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel, Yn galw ar fynydd a dôl. Wel sefwch yn hyf gyda ’ch dreigiau, Ac edrychwch i lawr megis creigiau, Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd I godi’r hen wlad yn ei hol.

Mae breichiau myrdd yn caledu, A ffroenau y meirch yn lledu; A berwi mae gwaed, Gwŷr meirch a gwŷr traed, I godi’r hen wlad yn ei hol. Fry, fry, cyhwfan mae ’r faner, Trywanu mae ’r cledd at ei hanner; Yn uwch eto ’n uwch gyda ’r dreigiau, Ac edrychwch i lawr megis creigiau, Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd, I godi ’r hen wlad yn ei hol!

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings