GOFIDIAU SERCH.
Reading edition
Wyt ti ’n cofio ’r lloer yn codi Dros hen dderw mawr y llwyn, Pan ddywedaist yr aberthet Nef a daear er fy mwyn? Wyt ti ’n cofio ’r dagrau gollaist Wrth y ffynnon fechan draw? Wyt ti ’n cofio ’r hen wresogrwydd,— Wyt ti ’n cofio gwasgu ’m llaw?
“Hyd fy marw” oedd dy eiriau, Y parhaet yn ffyddlon im’; O fy ngeneth, O fy nghariad! Nid yw poenau marw ’n ddim. Er wrth dorri ’th addunedau, I ti dorri ’m calon i,— Magi anwyl, mae dy gariad Eto ’n gariad pur i ti.
Mae ’th lythyrau yn gwneyd i mi Lwyr anghofio mi fy hun; Mae dy gudyn gwallt yn hongian, Fel helygen tros dy lun. Llun dy wyneb, Magi anwyl, O mae ’n twynnu fel yr haul, Nes ’r wy ’n teimlo gwae a gwynfyd Nef ac uffern bob yn ail.
O f’ anwylyd! er mai cyfaill Yw yn awr fy enw i, Maddeu i mi am ddefnyddio Yr hen enw arnat ti; Cariad wyt ti, Magi anwyl, Bur ddihalog fel erioed; Troi ’st dy wyneb, cefnaist arnaf, Minnau garaf ol dy droed.