← Table of contents
Ceiriog

WRTH WELD YR HAUL YN MACHLUD.

Reading edition

Wrth weld yr haul yn machlud, Mewn eurog donog dân; A mil o liwiau ’n dawnsio ’n deg, Ar fyrdd o donnau mân. ’Rwy ’n teimlo dwyfol wyddfod— Shecina Natur yw; Yn datgan ei ogoniant Ef Yr Hollalluog Dduw.

Wrth weld yr haul yn codi, Yn loew lân ei bryd; Rwy ’n gweld y glaer Shecina fawr, Yn amgylchynnu ’r byd. Os gormod gwedd yr heulwen I lygad marwol ddyn; Fath ydyw ei ogoniant Ef Y Crewr Mawr ei Hun!

Ar godiad haul yng Nghymru, Ces lawer boreu gwiw; Pan blygai ’m tad wrth ben y bwrdd, I ddiolch am gael byw. Caem eistedd yn y cysgod, Tra ’r haul yn croesi ’r nef; Mi gofiaf byth y weddi hwyr, Ar ei fachludiad ef.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings