← Table of contents
Ceiriog

HUN GWENLLIAN.

Reading edition

Alaw,—Hun Gwenllian.

Hun Gwenllian, ferch y brenin, Gwyn dy fyd ti tan y gŵys; Cwsg Wenllian, dyner blentyn, Yn y ddaear ddistaw ddwys. Cledd y Norman wnaeth gyflafan, Nid oes gennyt fam yn awr; Hun Gwenllian, hun Gwenllian, Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i’th fendithio Duw ’th gymerodd yn ei gôl; Mae th frawd hynaf wedi cwympo, Ni ddaw ’r iengaf byth yn ol. Yn dy gartref trig y Norman, Seren Cymru aeth i lawr; Hun Gwenllian, hun Gwenllian, Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings