FFARWEL ITI, GYMRU FAD.
Reading edition
Ffarwel iti, Gymru fad, Mynd yr ydym tros y tonnau, Mynd gan adael ar ein holau Beddau mam a beddau tad; O ffarwel, ein hanwyl wlad.
Tua ’r lan fe drodd y bâd, Tra cyfeillion ger yr afon Godant eu cadachau gwynion; Rhaid dy adael, Gymru fad, O! ffarwel, ein hanwyl wlad.
Ffarwel, ffarwel, Gymru fad, Bydd yr heniaith a ddysgasom, A’r alawon a ganasom Gyda ni mewn estron wlad; Ffarwel iti, Gymru fad.