Y FAM IEUANC.
Reading edition
Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen bychan cyntafanedig.
“Cewch eto deimlo ’r heulwen Yn gynnes ar eich grudd; Cewch eto deimlo ’r awel Am lawer hafaidd ddydd; Peidiwch a son am farw, Peidiwch a meddwl am I’ch plentyn fyw heb glywed Na’ nabod llais ei fam.
“Peidiwch a son am farw, Daw eto haul ar fryn; Ac iechyd ddaw i’ch codi O’r hen gystuddiau hyn. Yn wan ei llais atebodd, Peidiwch a son am fyw! ’Rwy ’n rhoi fy machgen anwyl I’ch gofal chwi a Duw.”
Gadawyd yr ystafell Am ddim ond ennyd fach, A chlywid llais yn sibrwd,— “Fy anwyl fachgen bach! Fy machgen, O! fy machgen! O na b’ai ’th fam yn iach; Fy nghyntaf, olaf blentyn, Fy anwyl fachgen bach!
“Fy nghyfaill bychan newydd ’R wyf fi yn mynd i’r nef; ’R wy ’n myned at yr Iesu, Hen gyfaill ydyw Ef!” Bu farw, ac hi wywodd Fel blodyn ar y dail, Gan ddyweyd,—“Fy machgen anwyl!” Ac “Iesu!” bob yn ail.