CLADDASOM DI, ELEN.
Reading edition
Claddasom di, Elen, ac wrth roi dy ben I orwedd lle fory down ni, Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen, A deigryn i lawr atat ti.
Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd, Pe hefyd bâi bosibl ei gau; Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd, Ac ni fedr angau nacau.
Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ’r gro, Ar gauad yr arch dy ddeffroi; Ond udgorn a gân, ac o’r dywell fro, Yn wen a dihalog y doi.
Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i ti Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd, Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni, Sy ’n dwedyd mai du ydyw ’r bedd.
I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,— Canfyddem di mhell oddi draw Ar furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen, Yn gwenu gan estyn dy law,—
I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw; A thybiem ein bod wedi dod, I gyffwrdd â’th law, ond deffroisom yn fyw, Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.
Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni, Nis erys gagendor yn hir; O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi, Claddasom ein hunain yn wir.
Na, na, nis ffarweliwn, mae ’r Iesu yn fyw, I’n dwyn ato ’i hun a thydi; Mae ’r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw, A’r nef mewn addewid i ni.