← Table of contents
Ceiriog

Y BABAN DIWRNOD GED.

Reading edition

’R oedd swn magnelau yn y graig, A swn tabyrddau ’n curo, A chlywid trwst ofnadwy traed Y Ffrancod wedi glanio, A’r waedd i’r frwydr chwyddai ’n uwch, Gan alw ’r dewr i daro; Terfysgwyd y glannau Gan rym y taranau A ruent ar lan y môr.

I dai ’r tylodion rhuthrai gwŷr, Gan ladd y diamddiffyn, A flamiai palas hardd gerllaw Gan dân o longau ’r gelyn; Fe ffoai mamau gyda’u plant, A chodai ’r claf mewn dychryn; Ond ’r oedd yno ddynes, A babi ’n ei mynwes, Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,— “O cwyd! O cwyd! fy Eurfron! Mae ’r march a’r cerbyd wrth y drws, Tyrd iddo ar dy union! Olwynwn ymaith fel y gwynt,— Anwylyd, clyw ’r ergydion! O Dduw, a ddaeth diwedd Fy mab, fy etifedd? Fy mhlentyn a anwyd ddoe!”

Atebai ’r wraig yn llesg ei llais,— “Fy mhriod, clyw fy ngweddi, O gad fi ar y gwely hwn, Ond gad y baban imi; Dos at y rheng i gadw ’th wlad, Fe gadwaf finnau ’r babi.” Y plentyn a hunai, A’r tad a’i cusanai, Ac yna fe ffodd i’r rheng.

’Roedd swn cleddyfau yn neshau, Gwawchiadau ac ysgrechian; A’r wraig weddiai ’n daer ar Dduw, Gan edrych ar ei baban; Ac yna holltwyd drws y tŷ Gan filwyr oddi allan. A hithau mewn dychryn A wasgodd ei phlentyn Yn nes at ei chalon wan.

Ar glicied drws ei ’stafell wag, Hi welai fysedd llofrudd, Ac ar y foment rhuthrodd haid, Yn swn rhegfeydd eu gilydd; A syllent fel gwylltfilod erch, O amgylch ei gobennydd; Ar wraig wan yn crynnu, A ddaliodd i fyny Ei babi bach diwrnod oed.

Atebwyd gweddi ’r ffyddiog fam, A hi a’i mab achubwyd; Mae hi yn awr ym mynwent werdd Yr eglwys lle ’i priodwyd; Ac erbyn heddyw mae y mab Yn hen weinidog penllwyd, Yn estyn ei freichiau I ddangos y Meichiau,— Y baban y anwyd i ni.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings