← Table of contents
Ceiriog

TUA THEGID DEWCH.

Reading edition

Chwi feirdd y trefydd mawr Sy ’n byw ar fwg a llwch; Dowch gyda fi yn awr, Dowch neidiwch i fy nghwch. Fyny ’r hen Ddyfrdwy nofiwn, A ffarwel i’r mŵg sydd ar ein hol, Rhwyfwn ymlaen, a chanwn Dan y coed a’r pynt, o ddol i ddol. Ger tref y Bala Mae lle pysgota, Ar loew loew lyn; Awn ymlaen tua ’r dyfroedd hyn, Moriwn yng nghanol Meirion; Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew, Ar groew loew lyn.

Draw, draw yng nghanol gwlad, Deg, deg fel Eden ardd; Ceir yno adfywhad I’r cerddor ac i’r bardd. Bywyd sydd yn yr awel Fel y dêl o’r coed, o’r allt, a’r rhiw, Bywyd y Cymry ’stalwm, Ysbryd cân a mawl sydd yno ’n byw. Ger tref y Bala, &c.

Chwi wŷr y trefydd mawr, Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi, O dowch am hanner awr Mewn cwch ar hyd y lli; Rhwyfwn i fyny ’r afon,## Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch; Mae môr rhwng bryniau Meirion, Tua Thegid dewch, i Degid dewch! Ger tref y Bala, &c.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings