POB RHYW SEREN.
Reading edition
[Suo-gân y Monwyson o “Cantata Tywysog Cymru.”]
Pob rhyw seren fechan wenai, Yn y nefoedd glir uwch ben; Rhwyfai cwch i fyny ’r Fenai, Yng ngoleuni ’r lleuad wen. Clywid canu—sucganu, Yn neshau o Ynys Môn,— Canu, canu, suoganu, Melus orfoleddus dôn.
Mewn awelon ac alawon, At y Castell rhwyfai’r côr; Ar y tyrau suai ’r chwaon, Wrth eu godrau suai ’r môr. Canent, canent, suoganent, Ar y Fenai loew, dlos; Dan ystafell y Frenhines, Suoganent yn y nos.
“Fel mae ’r lloer yn hoffi sylwi Ar ei delw yn y lli; Drych i Rinwedd weld ei glendid Fyddo oes dy faban di.” Suoganu i’r Frenines, Dan y ganlloer loew, dlos, Felly canodd y Monwyson, Ar yr afon yn y nos.