← Table of contents
Ceiriog

CORN Y GAD.

Reading edition

Alaw,—Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.

Music
Music

Ar y mynydd rhodiai bugail, Gwelai ’r gelyn ac yn uchel, Bloeddiodd allan—“Llongau Rhyfel!” Yna clywai gorn y gâd. Corn y gâd! Dyna ganiad corn arswydion, Traidd ei ddolef trwy Blunlumon, Cawdor sydd yn galw ’i ddynion. Corn y rhyfel hollta ’r nefoedd, Tery arswyd trwy ’r mynyddoedd, Etyb creigiau pell y cymoedd Gorn y gâd.

Fel mae Draig hen Gymru ’n deffro Tan y amynydd yn ei hogo’, Cerrig ateb sydd yn bloeddio, Chwythu ’n uwch wna corn y gâd; Corn y gâd! Meibion Berwyn ydynt barod, Llifant o’r mynyddoedd uchod, Duant y gwastadedd isod; Meirch i’r frwydyr gydgarlamant, Holl gleddyfau Cymru fflamiant, Mewn urdduniant, cydatebant Gorn y gâd!

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings