← Table of contents
Ceiriog

NANT Y MYNYDD.

Reading edition

Nant y Mynydd, groew, loew, Yn ymdroelli tua’r pant; Rhwng y brwyu yn sisial ganu, O na bawn i fel y nant.

Grug y Mynydd yn eu blodau, Edrych arnynt hiraeth ddug Am gael aros ar y bryniau Yn yr awel efo’r grug.

Adar mân y mynydd uchel, Godant yn yr awel iach; O’r naill drum i’r llall yn hedeg— O na bawn fel deryn bach.

Mab y Mynydd ydwyf innau, Oddicartref yn gwneyd cân, Ond mae’m calon yn y myuydd Efo’r grug a’r adar mân.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings