← Table of contents
Ceiriog

MYFI SY’N MAGU ’R BABAN.

Reading edition

[Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata Tywysog Cymru.”]

Myfi sy ’n magu ’r baban, Myfi sy ’n siglo ’r cryd, Myfi sy ’n hwian, hwian, Ac yn hwian hwi o hyd. Bu ’n crio bore heddyw, O hanner y nos tan dri; Ond fi sy ’n colli ’m cysgu, Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy ’n magu ’r plentyn, Bob bore, prydnawn a hwyr; Y drafferth sydd ei ganlyn, Fy hunan yn unig ŵyr. Nis gŵyr ef air o Saesneg, Nac un gair o’n hen hiaith ni,— I ddysgu ’r twysog bychan, Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu, I fyned yn llencyn iach; Caiff iaith brenhinoedd Cymru Fod rhwng ei ddwy wefus fach. A phan ddaw ef yn frenin, Os na wnaiff fy nghofio fi, O! cofied wlad y cenin, Y wlad sydd mor anwyl i ini.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings