DYCHWELIAD YR HEN FILWR.
Reading edition
Pell, pell, yw telyn Cymru O fy llaw; Do, dywedais gan alaru— Byth ni ddaw, O’r dydd y cenais ffarwel A chwi wrth fynd i ryfel, O’m mewn bu ’r geiriau dirgel— “Byth ni ddaw.” A rhuai safn y fagnel, “Byth ni ddaw.”
Ffarweliais pan yn fachgen Gyda chwi, Yng nghanol dyddiau llawen Rhannwyd ni; Ond nid yw ’r floedd fu ’n galw Tros ryddid, gwlad, ac enw, O fewn fy nglust yn farw, Na, mae cri A llais yr amser hwnnw Gyda mi.
Ond nid yw ’r holl wynebau Ger fy mron, Yr hardd rosynaidd ruddiau Ieuanc llon. Bu pellder i’n gwahanu, Bu amser yn ein gwynnu,— Do, do, mae wedi claddu Oll o’r bron; Ac atynt y’m yn nesu Bawb a’i ffon.
Wyt eto, delyn Cymru, Yn fy llaw; Ond ieuanc nerth i’th ganu, Byth ni ddaw. Ond clywaf swn dy dannau Yn murmur megis tonnau, Ar fôr yr hen amserau Yn ddidaw; Yn torri ar hoff lannau— Pell, pell, draw.
I’th erbyn delyn heddwch, Pechais i; Ond eto mewn tawelwch Wele ni. Mae llaw a driniodd arfau, Mae llaw wasnaethodd angau Yn cyffwrdd gyda’th dannau Anwyl di; Os aeth o gof dy chwarau, Torrer hi.
Na, na, er ei chaledu Gan y cledd, Daw rhwng y bysedd hynny Bennill hedd; Os gwelir dwfn ysgrifen Blynyddoedd ar fy nhalcen, Os ciliodd enw bachgen O fy ngwedd— Rwy ’n teimlo eto ’n llawen, Ger fy medd.
Gwir sylweddoliad breuddwyd Ger fy mron, Yw gweled eto ’r aelwyd Anwyl hon. Ar faesydd rhuddion angau Trwy dewfwg y magnelau, Cyfeiriais fil o weithiau Tros y don; At gysegredig furiau Mebyd llon.
Pell, pell, fu telyn Cymru O fy llaw; Do, dywedais gan alaru,— Byth ni ddaw. Ond wele ni, gyfeillion, Yn yfed gwin cysurlon O gwpan hen adgofion Yn ddifraw,— A wele ’r tannau mwynion Yn fy llaw.