LLWYBR Y PERERIN.
Reading edition
Mi dybiais fod ffordd y pererin i’r nef Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glâs gain; Dangosaist Di ’r ffordd—ac un gul dywell oedd, Garegog a blin trwy fieri a drain. Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen, Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw; Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i’w cael,— Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.