← Table of contents
Ceiriog

A DDWEDAIST TI FOD CYMRU ’N DLAWD.

Reading edition

A ddwedaist ti fod Cymru ’n dlawd, Am fod ei llannau ’n llonydd, A thithau ’th hun yn cloddio, frawd, Ym mryniau aur Meirionnydd? Mae mwy o gyfoeth tan dy droed, Na ddaeth i galon dyn erioed, Anwiredd mwy erioed ni wnawd— Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.

I ble y trown o fewn y tir, Nas gwelir mŵn ei meini Nad yw ’r meteloedd o’u gwelyâu Yn edrych am oleuni, Nad yw y prês a’r arian faen, Yn galw ar bob Cymro ’n mlaen, I roi ei ffydd a threio ’i ffawd Yn holl oludoedd “Cymru dlawd?”

Estyna ’th fys pan glywot hyn, Yn cael ei ddweyd am Gymru, At unrhyw graig, at unrhyw fryn, Fo ’n edrych ar i fyny. Mae ’r nentydd oll wrth fynd i’r aig A cherrig ateb ym mhob craig, Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd— Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings