LLANCES Y DYFFRYN.
Reading edition
Alaw,—Llances y Dyffryn.
Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn, Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn; Glanach yw ’r defaid ar ochr y bryn, Gwynnach yw ’r alarch ar ddwfr y llyn: Clysach yw ’r blodau, a glasach yw ’r coed; Harddach, prydferthach y byd nag erioed. Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn, Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.
Llances y Dyffryn oleuodd y fro, Gloewach yw ’r afon a glanach yw ’r gro; Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed, Hoenach yr awen na bu erioed. Hoffach yw ’r Dyffryn a llonnach pob lle, Mwynach yw ’r awel o’r dwyrain a’r dê; Trom fu fy nghalon, ond ’rwan distawn, Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.