CLADDEDIGAETH MORGAN HEN.
Reading edition
Hen frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen, Fe ’i carwyd yng nghalon y bobloedd; Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed, A chadwodd hi gant o flynyddoedd. Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch Gan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion; A theirmil o filwyr fu ’n ymladd o’i du, Ac wythcant o’i ddisgynyddion, Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, Eraill ar fronnau yn dechreu byw; Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrion Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.
Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben, Na rhych ar ei dalcen mawr llydan; ’R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hŷn Na’r brenin oedrannus ei hunan. Yn nhorf ei gynhebrwng ’roedd bachgen bach mwyn, Yn drist a phenisel yn twyso Y march heb ei farchog—y cyfrwy, a’r ffrwyn, A’r cleddyf yn unig oedd yno. Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.
Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais, A gwelodd Forgannwg yn gwaedu; Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr, A’i diroedd tan faner y Cymry. Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif, Am hynny ni chollodd un deigryn; Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant, Fe wylai, fe griai fel plentyn. Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.