← Table of contents
Ceiriog

ADDFWYN FIWSIG.

Reading edition

Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig, Gwenferch gwynfa ydwyt ti; Pan anedli, adfywiedig Awel haf ddaw atom ni. Gauaf du helbulon, Droi yn ha; Danat rhew y galon, Toddi wna, toddi wna. Dafnau melus bro gogoniant, Yn dy lafar di ddisgynnant; Blodau Eden yn ddiri’, Dyfant, wenant, beraroglant, Yn dy lais a’th wyddfod ti. Nefol ferch ysbrydoledig, Ti sy ’n puro ’r fron lygredig, Ti sy ’n llonni ’r cystuddiedig. Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig Gwenferch gwynfa ydwyt ti.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings