← Table of contents
Ceiriog

MWYN YW MYNED TUA MON.

Reading edition

Alaw,—Hufen Melyn.

Words and music
Words and music

A ddowch chwi’ rwyf—o ar yr af-on, A ddowch chwi’ gan-u yn-o’n gôr?

I weld hy—naws—ed yd—yw nos-on, A mwyn-ed murmur tònau’r môr?

A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen-o, I Yn—ys Mon-a rhwyf—wn gyda’r dôn: O dowch i gan-u, dowch i nof—io, Dowch i rwyf-o gyda’r dôn: Mae croes—o an-wyl in—i yn—o, O mwyn yw myn-ed tu—a Môn.

Mae ’r bad yn nofio ar yr afon, A nos o fwyniant ydyw hon; Mae ’r ser a’r lleuad yn dryloewon, A’r côr yn canu ar y dòn. Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno, Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda ’r dôn,— A dyma ’r canu, dyma ’r nofio, Dyma ’r rhwyfo gyda ’r dôn; Mae aelwyd lawen inni yno, O mwyn yw myned tua Môn.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings