← Table of contents
Ceiriog

DIFYRRWCH GWYR HARLECH.

Reading edition

Alaw,—Difyrrwch Gwŷr Harlech.

Wele goelcerth wen yn fflamio, A thafodau tân yn bloeddio, Ar i’r dewrion ddod i daro Unwaith eto ’n un; Gan fanllefau ’r tywysogion, Llais gelynion, trwst arfogion, A charlamiad y marchogion, Craig ar graig a gryn. Cwympa llawer llywydd, Arfon byth ni orfudd; Cyrff y gelyn wrth y cant Orffwysant yn y ffosydd; Yng ngoleuni ’r goeleerth acw, Tros wefusau Cymro ’n marw, Anibyniaeth sydd yn galw Am ei dewraf dyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid Harlech! Harlech; cwyd i’w herlid; Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid, Yn rhoi nerth i ni; Wele Gymru a’i byddinoedd Yn ymdywallt o’r mynyddoedd! Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd Llamant fel y lli. Llwyddiant i’n lluyddion, Rwystro bâr yr estron, Gwybod yn ei galon gaiff Fel bratha cleddyf Brython. Cledd yn erbyn cledd a chwery, Dur yn erbyn dur a dery, Wele faner Gwalia i fyny, Rhyddid aiff a hi.

Castell Dinas Bran. S. M. Jones. I wynebu tud
Castell Dinas Bran. S. M. Jones. I wynebu tud
Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings