BEDD LLYWELYN.
Reading edition
Alaw,—Goslef Llywelyn.
I feddrod Llywelyn mae ’r tir wedi suddo, Ac arno ’r gwlawogydd arosant yn llyn; Mae ’r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo, Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn. Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn! Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd? Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano, A deryn y mynydd yn nabod y bedd.
Ar ddamwain mae ’r Cymro yn dyfod i weled, Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran; Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed, Fod calon hen Walia yn curo ’n lled wan; Dieithriaid a ddônt i weled y fan Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd; Wel diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered, Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.