AR HYD Y NOS.
Reading edition
Alaw,—Ar hyd y Nos.
Holl amrantau ’r ser ddywedant, Ar hyd y nos, Dyma ’r ffordd i fro gogoniant, Ar hyd y nos. Goleu arall yw tywyllwch, I arddangos gwir brydferthwch Teulu ’r nefoedd mewn tawelwch, Ar hyd y nos. O mor siriol gwena seren Ar hyd y nos; I oleuo ’i chwaer-ddaearen Ar hyd y nos. Nos yw henaint pan ddaw cystudd, Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd, Rhown ein goleu gwan i’n gilydd Ar hyd y nos.