TROS UN O DRUMIAU BERWYN.
Reading edition
[O “Owain Wyn.”]
Tros un o drumiau Berwyn. Ryw noson ddistaw oer, Y teithiai gŵr lluddedig Wrth oleu can y lloer. Fry uwch ei ben yn crynnu ’Roedd llawer seren dlos, A chlywid yntau ’n canu Fel hyn i glust y nos:—
“Hen fynyddoedd fy mabandod, Syllant eto ger fy mron; Wele fi yn ail gyfarfod Gyda ’r ardal dawel hon; Cwm wrth ochr cwm yn gorwedd, Nant a nant yn cwrdd ynghyd, A chlogwyni gwyllt aruthredd Wyliant uwch eu pennau ’n fud.
“Mewn pellenig gartrefleoedd Wedi ofn a phryder hir, Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd Sylweddolwyd gan y gwir; Os ffarweliodd anobeithion Ar fy ngenedigol wlad, Ni ffarweliais yn fy nahalon Gydag anwyl dŷ fy nhad.
Dacw ’m cartref is y goedwig, Groesaw! hen arwyddion hedd; Dacw ’r fynwent gysegredig, Wele ’r ywen—dyna ’r bedd!” Darfyddodd cân y teithiwr Mewn teimlad llon a phrudd, A deigryn gloew, gloew, Ollyngodd tros ei rudd.
Aeth heibio dôr ei gartref, Os gofyn wnei paham, Awgrymed dy deimladau, A chofia fedd ei fam! A threnlio ’r noson honno Ar fedd ei fam wnaeth ef, Nes suddo ’r seren fore I eigion gwyn y nef.