Y DEFNYN CYNTAF O EIRA.
Reading edition
Yr ôd, yr ôd! mae ’r eira ’n dod! Rhwng y simneiau dacw fe, Y defnyn cyntaf yn dod or ne; Yn chware fel aderyn gwyn, Trwy fŵg a chaddug y melinau hyn. Mae ’n ofni disgyn, ac fel pe bae Yn ail-ymgodi, ond disgyn mae. Mae yn bwrw golwg tros y ddinas fawr, Ac yn mesur y ffordd wrth ddod i lawr; Gan edrych trwy ’r ffenestri ban, Fry gyda ’r awel o fan i fan. Mae ’n ymddyrchafu ac yn ymgrynhoi, Ac yn dal i ddisgyn, ac yn dal i droi— Ond gwel ei lengoedd! Mil myrddiwn mân O angylion gwynion y gauaf glân, Sy ’n dod ag amdo a chistfeddau iâ, I gladdu meirwon flodau ’r ha. Y nef sy ’n galw ’r blodyn hardd I fyw a gwenu o lwch yr ardd. A phan fydd farw, nis anghofia ’r nef Mo dyrfa wen ei angladd ef.