← Table of contents
Ceiriog

TUAG ADRE.

Reading edition

O ddydd i ddydd mae melyn haul Yn pasio yn ei gerbyd; O nos i nos mae ’r lleuad wen Yn codi ac yn machlud? O awr i awr mae ’r ser yn troi Ar draws yr eangderau;— Yn wir, mae holl greadigaeth Duw Yn teithio tuag adre.

Mae ’r ffrydlif fach, ar ben y bryn, Yn rhedeg megys crwydryn; Ac afon fawr, y dolydd îs, Yn rhedeg yn y dyffryn; Mae ’r gwynt yn crwydro yn y nef, A symud mae ’r cymylau;— Ac O! mae holl greadigaeth Duw Yn teithio tuag adre.

Mae gwynt Diwygiad ar ei daith, A derw Cymru ’n gildio, Mae swn gorfoledd yn y dail,— Mae swn canghenuau ’n cracio; O! Anadl, tyrd o’r pedwar gwynt, A chymer y byd mewn hymnau, Cân a moliant iddo Ef, I byrth tragwyddol gartre.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings