← Table of contents
Ceiriog

O WEDDI DAER.

Reading edition

[O “Jona.”]

O weddi daer! gwyn fyd y fron A fedro dy anadlu, Yng nghalon edifeirwch gwir Y cuddiodd Duw dy allu; Yr isel lwch yw’th gartref di, Ac mewn sachlian gwisgi, Gwyn fyd y llais crynedig gwan Dywallto ’i hun i weddi.

O weddi daer! tramwyfa wyt I lu o engyl deithio I lawr i’r dyfnder at y gwan, I roi eu hedyn trosto,— I wlychu gwefus oer y llesg, A gwin a’i calonoga; O ddyn! os tynni ŵg y nef, Dos ar dy lin—gweddia.

“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi Dros hen dderw mawr y llwyn?”
“Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi Dros hen dderw mawr y llwyn?”
Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings