Y MARCH A’R GWDDW BRITH.
Reading edition
Alaw,—Y Gadlys.
Caradog eilw ’i ddeiliaid, Ag udgorn ar ei fant; Fe ruthrodd y Siluriaid, Cwympasant yn y pant. Enciliodd arwyr enwog, Ond ar y march a’r gwddw brith Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith I edrych am Garadog.
Mae cynnwrf yn y ceunant, Ar derfyn dydd y gad; A dynion dewr orweddant, I farw tros eu gwlad. Yr afon foddodd fyddin, Ond ar y march a’r gwddw brith, Fe ddaw ’r frenhines deg i’w plith, I edrych am y brenin.
Fe welodd y Rhufeiniaid Y march a’r gwddw brith; Ond gwelodd y Brythoniaid Frenhines yn eu plith. Mae ’r corn yn ail-udganu, Brythoniaid yn eu holau drônt, Rhufeiniaid yn eu holau ffônt, O flaen cleddyfau Cymru.