← Table of contents
Ceiriog

BUGEILIO ’R GWENITH GWYN.

Reading edition

Alaw,—Bugeilio ’r gwenith gwyn.

Eisteddai merch ar gamfa’r cae, A’i phen gan flodau ’n dryfrith, I gadw ’r adar bach ffwrdd Rhag disgyn ar y gwenith. Rho’i ganiatad i’r deryn to, A’r asgell fraith gael disgyn; Rhag ofn ei fod yn eos fach, A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan, Yn gofyn am dy gymorth: Wrth gil y drws, a glywi di, Mo ymbil chwaer am ymborth? Os wyt am fendith ar dy faes, Gogwydda glust i’w gweddi; Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r gwlaw, Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn, Gofala beth a heui; A wyt ti’n hau y dyddiau hyn Yr hyn ddymunet fedi? Tra gwelot wlith a gwlaw y nen, A’r heulwen yn haelionus; Wel dos i hau ar dir y tlawd, A chofia’th frawd anghenus.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings