CERDDI CYMRU SYDD YN BYW.
Reading edition
Cerddi Cymru sydd yn byw, Trwy ’r blynyddau yn ein clyw; Sibrwd ein halawon gynt, Mae cwynfanau trwm y gwynt; Dwyn yn ol lais mam a thad Mae hen donau pur ein gwlad.
Pan sisialo dail y llwyn, Clywir chwi yn lleddf a mwyn; Dweyd mae ’r môr wrth ruo ’i gân Ddarnau cerddi Cymru lân; Ac mae clust y Cymro ’n gwneyd I’r gre’digaeth oll eu dweyd.