← Table of contents
Ceiriog

A LAESWN NI DDWYLAW?

Reading edition

Alaw,—Llwyn Onn.

A laeswn ni ddwylaw yng nganol y rhyfel, Tra ’r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd? Tra llidiart y fynwent a’i sgrech ar ei hechel Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd? Mae’r blodau sy’n tyfu ar feddrod y meddwyn Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw; A’r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn “Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?”

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings