Epistol Paul yr Apostol at yr Hebreaid.
Reading edition
Pennod I.
1. Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab;
2. Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd;
3. Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn eynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwchleoedd;
4. Wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ’r angelion o gymmaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol nâ hwynt-hwy.