← Table of contents
Gwaith Twm o'r Nant

Y Galon Ddrwg.

Reading edition

Swelwn echrysa golwg, Gwael iawn ddrych y galon ddrwg: Calon afradlon o fryd, Annuwiol heb ei newid: Calon yw mam pob cilwg, An-noeth drefn, a nyth y drwg; Drwg ddi-obaith, draig ddiball, Pwy edwyn ei gwŷn a’i gwall?

Effaith y cwymp, a’i ffrwyth cas, A luniodd pob galanas; Grym pechod yn ymgodi, A’i chwantau fel llynnau lli; Glennydd afonydd y fall, Dengys bob nwydau anghall; Dîg-ofid yn dygyfor, Tân a mŵg, fel tonnau môr: Uffern yw hon, o’i ffwrn hi Mae bariaeth yma’n berwi: Ysbyty, llety pob llid, Gwe gyfan gwae a gofid; Trigfa pob natur wagfost, Bwystfilaidd ’nifeilaidd fost: Treigle a chartref-le trais, Rhyfeloedd, a phob rhyw falais; Rhial pob an-wadal wŷn, Ty ac aelwyd y gelyn. Meirch, a chwn, a moch annwn, Sy’n tewhau yn y ty hwn, Seirff hedegog mewn ogo, A heigiau dreigiau blin dro. Pob lleisiau, arw foesau’r fall, Sy’n dwad i swn deall; Swn t’ranau, sain trueni, Swn gofalon greulon gri: Melin wynt, yn malu’n wâg, Rhod o agwedd rhedeg-wag; A’i chocys afaelus fôn, Yn troi’u gilydd trwy’n galon; Drylliad, ag ebilliad bach, Y maen isaf, mae’n hawsach, Na dryllio, gwir bwyllo i’r bon, Ceulaidd, drygioni calon, C’letach a thrawsach ei thrin, Mewn malais, na maen melin.

Llais hen Saul, a llys hwn sydd, Fan chwerw, o fewn ei chaerydd. Ni all telyn a dyn doeth, Clywn, ennill calon annoeth.

Och! ni byth, achwyn y bo’n, Wrth goelio, fod fath galon: Gweddiwn, llefwn rhag llid, Yn Nuw, am gael ei newid. Nid oes neb a’i hadnebydd, Ond gain y Tad, a’i rad rydd; A’n gair os daw, gwiw-ras dôn, A dry’r golwg drwy’r galon: A drwg calon draw cilio, Amen fyth, mai hynny fo.

Explore with AITake your curiosity a little further.

Reading settings